addolant. Y mae pob cenedl yn debyg i'w duwiau. Os duwiau creulon a chas a addola, pobl greulon a chas yw'r bobl. Os duwiau tyner ac addfwyn yw ei duwiau, pobl dyner ac addfwyn yw'r bobl. hwythau.
Dyna ni o'r diwedd yn barod i sôn am y dduwies y bwriadwn sôn amdani. Buom yn hir yn dyfod ati, ond rhaid paratoi'r ffordd yn lled lwyr er mwyn i chwi a minnau ddeall ein gilydd yn iawn. Enw'r dduwies hon oedd Branwen, ac un o dduwiesau anwylaf yr hen Gymry oedd hi. Fel merch ar wyneb y ddaear y sonnir amdani yn y stori sydd amdani, ond un o dduwiesau'r hen Gymry yw hi er hynny, ac un annwyl ac addfwyn iawn, yn deilwng o'i charu gennych bob un ohonoch. Wrth ddarllen ei hanes hi a'i chyffelyb deuwch i wybod beth oedd syniadau'r hen Gymry am y byd, pwy a lywodraethai'r