Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am eu cadernid eu hunain. A gwisgai Bran goron ardderchog Llundain. Yr oedd un o'i lysoedd yn Harlech, yn Ardudwy. Ac un prynhawngwaith o haf yr oedd yn y llys hwn. Yr oedd craig yno a elwid Carreg Harlech ymhell uwchlaw'r môr, ac yno yr eisteddai ef a'i gwmni yn edrych tua'r môr. Gydag ef yr oedd Manawyddan ei frawd, y gŵr y dywedais amdano mai ef oedd duw gwlad y goleuni yn ôl syniad yr hen Gymry. Felly yr oedd y ddau frawd, duw gwlad y tywyllwch a duw gwlad y goleuni, yn digwydd bod ynghyd y prynhawn hwn. A chyda hwy ill dau yr oedd y ddau hanner brawd,—Nisien ac Efnisien, a nifer eraill, fel y gwelir bob amser O amgylch brenin. Ymddengys fod dwy wraig wedi bod i Lŷr,—Iwerydd a Phenardim, ac i Benardim fod yn wraig i Euroswydd cyn bod yn wraig i Lŷr.