Gwirwyd y dudalen hon
hadrodd, ac wrth wneuthur brenhinoedd a thywysogion dynol o'r hen dduwiau, yn eu gwneuthur ar yr un pryd yn wŷr a addolai ein Duw ni. Fel dynion yr ymddŵg y duwiau a'r duwiesau hyn yn y stori hon, ond bod darnau ohoni yn eich atgoffa am y cyfnod pan nad oeddynt yn ddim ond duwiau a duwiesau yn syniad y wlad.
Pan glywodd Matholwch brenin Iwerddon fod croeso iddo ar y tir,—
"Minnau a af yn llawen," eb ef.
Daeth Matholwch i dir i gyfarfod â Bendigaid Fran, a buwyd yn llawen iawn wrtho. Caffai groeso gan bawb. Daeth ei wŷr i'r lan gydag ef, a bu cyd-gyfarfod mawr yn y llys y nos honno rhwng ei wŷr ef a gwŷr y llys. Drannoeth bu'r brenhinoedd