Gwirwyd y dudalen hon
Ac ar hynny gwanu dan y meirch, a thorri eu gweflau wrth eu dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau, a'u rhawn wrth eu cefnau, a'r lle ni chaffai graff ar yr amrannau y torrai hwy wrth yr asgwrn, a gwneuthur anffurf ar y meirch felly, hyd nad oeddynt o ddim gwerth.
Dyna ffordd Efnisien o fwrw ei lid, am na ofynnwyd ei ganiatad ef i roddi Branwen i Fatholwch. A gallasech feddwl mai ef fuasai'r olaf i unrhyw un fynd ato i ofyn am ei ganiatad ym myd cariad.
Llwyddodd yn ei gais i ddinistrio'r dedwyddwch. Daeth y newydd at Fatholwch ynghylch anffurfio'r meirch, a'u difetha, fel nad oeddynt yn dda i ddim mwy.
Ymysg gwŷr Matholwch yr oedd un a ddylai fod yn perthyn i Efnisien, canys rhoddodd yr esboniad gwaethaf yn bosibl