Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd yn beth priodol o gwbl ganiatau i Fatholwch adael y llys fel hyn.

Ni wyddai neb sut y terfynai pethau. Hwyrach mai dychwelyd a wnai i ryfela yn erbyn y brenin. Ac nid oedd yn deg chwaith ag ef beidio ag ymdrechu symud y sarhad di-achos hwn oddiarno. Methai'r brenin â gwybod beth i'w wneuthur.

"Arglwydd," eb un o'r ddau gennad wrtho, "anfon eto genhadau ar ei ôl."

"Anfonaf," eb yntau, eb yntau, "Cyfodwch, Fanawyddan fab Llŷr, ac Efeydd Hir, ac Unig Glew Ysgwydd, ac ewch ar ei ôl, a mynegwch iddo ef y caiff farch iach am bob un a lygrwyd. A chyda hynny y caiff yn wynebwarth wynebwarth (iawn) lathau (gwialennau) arian cyn lleted a chyhyd