Gwirwyd y dudalen hon
y fan yma mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ydyw. Ni buasai plentyn bach yn tyfu'n gawr mewn pythefnos a mis fel yr un y sonnir amdano yma, yn unman ond ym myd y duwiau.
Dyma ateb Bendigaid Fran,—
"Daeth y pair i mi," eb ef, "oddiwrth ŵr a fu yn dy wlad di, ond ni wn ai yno y cafodd ef."
"Pwy oedd hwnnw?" ebe Matholwch.
"Llasar Llaesgyfnewid," ebe Bendigaid Fran. "Daeth hwnnw yma o Iwerddon, a Chymidau Cymeinfoll ei wraig gydag ef. Diangasant o'r tŷ haearn yn Iwerddon pan wnaethpwyd ef yn wynias o'u cylch, ac y mae'n syndod i mi oni wyddost ti ddim am hynny."