Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Branwen a'r aderyn drudwen.

PARHAODD y wledd a'r ymgomio trwy'r nos honno, nes i bob un fynd yn swrth yn ei dro, a syrthio i gysgu. Wedi i'r wledd fynd drosodd, cychwynnodd Matholwch a Branwen am Iwerddon. O Aber Menai y cychwynasant am Iwerddon, mewn tair llong ar ddeg.

Pan gyraeddasant ben eu taith, bu llawenydd mawr dros ben, a Branwen yn anrhegu pawb a ddeuai i edrych amdani. Ni ddeuai neb yno na roddai hi rywbeth neu'i gilydd iddo,-breichled, neu fodrwy, neu deyrndlws uchelbris. A mawr ei pharch oedd hi yn eu mysg y flwyddyn honno,— cynhyddu a wnai ei chlod a'i chyfeillion