arni. Rhwymodd y llythyr am fôn adenydd yr aderyn, ac anfonodd ef tua Chymru. Daeth yr aderyn drosodd i Brydain, a daeth o hyd i Fendigaid Fran yng Nghaer Saint yn Arfon. Disgynnodd ar ei ysgwydd ac ysgydwodd ei blu nes gweld ohono'r llythyr, ac adnabu drwy hynny feithrin o rywun yr aderyn yn ddof.
Cymerodd Bendigaid Fran y llythyr, a'i edrych, a phan ddarllennodd ef ymboenodd yn fawr oherwydd cyflwr Branwen, a dechreuodd ar ei union anfon cenhadau i gynnull yr ynys hon ynghyd. Yna parodd ddyfod ato wŷr pedair gwlad a saith ugain, a hysbysodd hwynt o'r boen a roddai pobl Iwerddon i'w chwaer. Wedi ymgynghori penderfynwyd mynd i Iwerddon, a gadael seithwyr ar ôl i ofalu am yr ynys hon, a Charadog fab Bran yn bennaf arnynt. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwŷr