Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

afon, ni all neb fynd drwyddi. Nid oes bont arni chwaith. Beth yw dy gyngor ynghylch pont?"

"Nid oes gennyf gyngor," eb yntau, "ond a fo ben bid bont. Myfi a fyddaf bont."

A dyma'r adeg gyntaf, meddir, y dywedwyd yr hen ddihareb, "a fo ben bid bont." Tebyg yw ei hystyr i eiriau hysbys Iesu Grist, "Pwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb."

Yna gorweddodd Bendigaid Fran fel pont ar draws yr afon, ac wedi bwrw clwydau drosto, cerddodd ei filwyr drosto i'r ochr arall.

Cyn gynted ag iddo ef godi dyma genhadau Matholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo. Credent, y mae'n debygol, mai dyna oedd oreu iddynt. Mynegwyd iddo na ddymunai Matholwch