Gwirwyd y dudalen hon
Wedi claddu Branwen aeth y seithwyr tua Harlech, a phen Bendigaid Fran ganddynt. Fel y cerddent ymlaen dyma dyrfa fawr o wŷr a gwragedd yn cyfarfod â hwynt.
"A oes gennych chwi chwedlau?" ebe Manawyddan.
"Nac oes," ebe hwy, "ond goresgyn o Gaswallon fab Beli Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain."
Cofiwch am Garadog fab Bran a'r gwŷr eraill a adawodd Bendigaid Fran ar ôl i wylio'r ynys hon tra fyddai ef yn Iwerddon. A gofynnodd y gwŷr a gariai ben Bendigaid Fran beth a ddaeth o'r rheiny.
"Daeth Caswallon i'w herbyn," ebe'r dyrfa, "a lladd y chwe gwŷr, a thorrodd Caradog yntau ei galon o dristwch am