chyfnewid gan Sïon, a hynny gymmin nes peidio â bod yn siacced o gwbwl.
Ac arfer gair athronyddol, math o negyddiath ydi Protestaniath; a 'd ydi hynny mewn iaith dduwinyddol yn ddim amgen nag anffyddiath- hollol ne rannol. Y mae hynny o betha pendant oedd gynt yn perthyn i Brotestaniath, megis etholedigath Calvin a chyfiawnhad Luther, wedi eu bwrw ymaith er's canrifodd. Yr hawl i brotestio yn erbyn barn ac arfer yr Eglwys gyffredinol ydi'r unig beth y mae'r Protestanied yn dal gafal ynddo. Ac y maenw wedi protestio a phrotestio yn erbyn cynnifer o betha fel nad oes ganddynw mwyach ddim un athrawiath ysprydol i'w chredu nac un ddyledswydd foesol i'w gneuthur. Oddi eithyr y lluodd a ddychwelodd i'r Eglwys, y mae y rhan fwyaf o'r gweddill wedi mynd yn anffyddwyr hollol, fel yr aeth gynt eppil yr Hugnotied yn Ffraingc. Y mae'n wir fod etto yng'Hymru rai cannodd o Brotestanied ar wascar nad ydynw ddim yn anghredu pob peth, ac na fynnanw ddim cael eu cyfri gyda â'r anffyddwyr, ond y maenw yn rhy anammal i ymffurfio yn secta, ac yn rhy anghydfarn i allu ymuno yn un sect. Y maenw fel llawer o'u blaen yn ceisio sefyll ar lain o draeth byw rhwng môr a thir; a rhaid iddyn nhwtha cynn hir naill ai dychwelyd i'r tir neu ymdaflu i'r môr. Nid oes dir cadarn y gellir sefyll arno rhwng Catholigath ac anffyddiath.
Fe all yr ifengaf o honochi ddweyd pa beth ydi Catholigath, a pha beth ydi anffyddiath wyneb- agored hefyd; ond pwy ohonochi, ïe, pa un o'r Protestanied eu hunen, a all ddweyd pa beth ydi'r credo Protestanadd?