sydd i benderfynnu nad oes yn y Testament Newydd na mwy na llai o lyfra nag a ddyle fod ynddo? Ai y darllennwr ei hun? ai y rhann fwyaf o Gristionogion? ai pawb, trwy gydsyniad cyff- redinol? ai ynte pwy? Os attebir mai gwell ydi ymddiried y pwnge ynghylch nifer y llyfra i wŷr cyfarwydd, oni ddywede rhiwun, am gystal rheswm, y bydde'n well ymddiried pwnge yr esponio hefyd iddynw? A pha sicrwydd sydd y bydde'r gwŷr cyfarwydd eu hunen yn cyttuno yn y diwedd? Os cyffyrddodd Luther â'r Canon, pa fodd y galle fo na neb o'i ddilynwyr orchymyn i ni gadw'n llaw oddi wrtho? Ac os attebir fod Luther yn fwy dyscedig na ni, pwy sydd i brofi hynny?
"Y mae'n hyspys nad oedd na phroffwyd nac apostol yr ofne Luther roi cic iddo, os bydde'r proffwyd ne'r apostol hwnnw yn anghyttuno ag ef ynghylch cyfiawnhad trwy ffydd. Am hynny fo ddywedodd: Chwedleuwr ydi Job.'
Nid oes gan y Pregethwr na botasa nac ysparduna; gyru y mae-o yn 'rhaed ei hosana." Y mae'r epistol at yr Hebreied yn cynnwys cyfeiliornada sy'n wrthwynebol i holl epistola Paul; y mae'n annichon cael hyd ynddo i yspryd apostoladd a dwyfol.' Epistol soff yw epistol Iago.'[1]
Os oedd yn rhydd i Luther ddangos ei gas at rai o scrifenwyr y Testament Newydd, pa ham na chawn ninna neyd yr un ffunud? Pa ham, er engraff, na chae rhiw escob Seisnig sy'n chwennychu ail briodi, roi cic i'r epistola bugeiliol o achos i'w hawdwr-nw feiddio dweyd fod yn rhaid i escob fod yn ŵr un wraig? Os pwngc agored oedd pwngc y Canon gann Luther,
- ↑ Encyclopédie Theologique, publiée par L'Abbé Migne.