flaenorol, ac ymheddychu â'r Pab.[1] Ni wyddenw ddim chwaith ei fod-o, tra yn taranu yn eon yn erbyn y Pab a'i escobion, yn ymgrymmu hyd lawr i'r brenhinodd a'r tywysogion penrhydd oedd yn pleidio'r Diwygiad; a'i fod felly yn debig i ameuthwyr Cymru gynt, yn wrol dross benn yng'wydd gwŷr Eglwysig diamddiffin, ond yn yswatio fel llygod gerr bronn gwŷr tiriog.
Nw a glywsen ond odid fod gann Calvin. . . , ond ni wyddenw ddim ei fod. . . . [2] 'D oeddenw ddim yn ddigon hyddysg yn ysgrifeniada Erasmus i wybod mai o glefydon rhy ffiadd i'w henwi y pydrodd ac y bu farw Ulrich von Hutten, marchog y Diwygiad."[3]
Yr oedd yn annichon i'r hanesyddion mwya pleidiol i Brotestaniath guddio oddi wrthynw y prif ffeithia ynghylch cydwybod" a chnawd Harri VIII, Penn cyntaf Eglwys Loiger; ond y mae'n debygol fod yr Escob Burnet a'i debig wedi'w hargyhoeddi-nw fod yn annichon i Dduw ddwyn i benn ei amcanion grasol tuag at Brydan heb ddonio rhiw hen Harri neu gilidd â gwangc anniwall am arian, am wragedd, ac am waed.
Rhaid eu bod-nw'n gwybod mesur o'r gwir am Cranmer, ei weinidog-o, yr hwnn oedd wedi ymwerthu i neuthur ewyllysia'i feistyr-a rhai o'i ewyllysia'i hun hefyd;[4] canys yr oeddo'n cadw dwy feistres ar yr un pryd; eithyr y mae eu bod-nw yn ei alw-fo'n venerable Cranmer yn dangos nad oeddenw ddim yn gwybod mai y fo oedd yr adyn mwya diegwyddor a hyrddiwyd erioed trwy un tân i dân poethach.