Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blynyddoedd bellach, y mae arnaf i a'm gwlad a'm hiaith enwa gwel: CYMRO, CYMRU, a CHYMRAEG.

Pann y safo plentyn am ennyd bach ar lann y môr, a gweled wyth o bob naw tonn yn ymdaflu ar y traeth hyd at ei draed, fo all yn hawdd dybio fod y môr yn llenwi pann y bydd-o mewn gwirionedd yn treio. Pe safe-fo yn hwy yn yr un fann, fo wele mai cilio yn ôl y mae y môr, er fod amriw o'i donna-fo yn rhuthro ym mlaen, a hyd yn noed yn gwlychu tywod oedd yn dechra sychu. Cyffelyb i'r plentyn hwnn oedd hyrwyddwyr

YR ACHOSION SEISNIGEIDDIOL:

pann y gwelenw donn Seisnig yn ymdaflu dross y sir honn a'r ardal arall, nw a lefen yn gyffrous:

Wele, y mae y llanw mawr Seisnig yn dyfod! ac ofer ydi codi clawdd na rhagfur yn ei erbyn-o; am hynny ymroddwn i'r anocheladwy trwy dorri ffosydd i ddwyn y môr yn gynt i'r lann; canys gora po fyrraf y parhao tymor y trosi."

Yr oedd y rhain yn pryderu ynghylch yr amser a fydd am nad oeddenw wedi darllen hanes yr amser a fu. Ni wydden nhw, druen, fod tonn Seisnig wedi ymruthro dross orora Cymru fwy nag unwath o'r blaen, ac wedi ymgilio drachefen. Ni wydden nhw y bydde'r Gymraeg yn ennill tir mewn un cyfeiriad, pann y byddai hi yn colli tir mewn cyfeiriad arall. Ni chlywsen nhw y bu'r wlad rhwng y Gonwy â'r Ddyfrdwy unwath yn drigfa Seuson. Ni ddarllensen nhw mo weithia hen feirdd Cymru, ac am hynny ni welsenw mo gân Lewis Glynn Cothi, yn yr honn y mae-o yn edliw i drigolion tre Fflint, yn amser Rhyfel