Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr ydys wedi cofnodi dadleuath a fu mewn cyn- nadledd Ymneillduol; ac yn honno ni cheir odid un frawddeg ag ynddi enw ac ansoddair Cymreig na berf Gymreig chwaith, os gadewir allan yr io sy'n derfyniad ì ferfau. Yr oedd eu hiaith, os cofnodwyd eu geiria-nw yn gywir, yn debyg i iaith Wil Bryan yn Rhys Lewis (yr honn, gyd â llaw, ydi'r unig nofel dda a naed gann Ymnneillduwr, oddi eithyr nofel dair cyfrol John Hughes o Lyrpwll, sef Methodistiath Cymru).

Y mae yn ymddangos y bydde llawer o'r pregethwyr Cymreig yn bur Seisnigadd eu hiaith hyd yn noed wrth bregethu; canys fe geir yn eu pregetha liaws o eiria Seisnig, a mwy fyth o ymadroddion Seisnigadd. Yr wyf yn casclu mai celcio'u pregetha y bydde'r pregethwyr hynn o lyfra Seisnig, a'u bod yn rhy ddiog i estyn ac i agor geiriadur pann na ddoe gair Cymreig yn ebrwydd i'w co. [1] Ond efalle'u bod yn derbyn eu gwobor yr un fath â phe bysenw yn gneyd eu gwaith yn dda. Hyd y gwelis i, odid byth y byddenw yn egluro rhiw athrawiath trwy gyfeirio at ffaith ne chwedel yn Hanes Cymru; cyfeirio y byddenw yn hytrach at riwbeth a welsonw mewn hanesyddiath Seisnig, ne yn chwedloniath y Groegied a'r Rhufeinied. Nid trwy chwilio mewn llyfra chwaith y cawsonw'r petha estronol hynn, eithyr trwy chwilio mewn llyfr a'i enw Handy Book of Illustrations for Busy Preachers. Y maenw yn dyfynu llawer o'r Pretty Bits from the Poets, ond ychydig iawn ohonynw sy'n dyfynu dim o weithia'r hen feirdd Cymreig.

  1. Nid dyma'r unig reswm; canys ni a wyddom fod rhai yn arfer geiriau Seisnig a hanner-Seisnig o rodres, ac ereill er mwyn bod yn Negroaidd eu harddull, ac felly yn fwy digrifol.—Y Cofnodwr.