Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid yn y yn y wlad y treulient eu hoes. Yr oedd eu llygaid ar y byd mawr. Byddai un yn ddoctor enwog, un arall yn siopwr cyfoethog yn Llundain, un arall yn athro mewn coleg, un arall yn gapten ar y môr, un arall yn filiwnydd yn America. Deuai'r bechgyn oll yn bwysig ac yn gyfoethog. Bywyd dedwydd mewn cartref hardd oedd delfryd y rhan fwyaf o'r merched.

Cadwodd Miss Prys—neu yn hytrach, Mrs. Harri— y llythyrau hyn yn ofalus. Darllenai hwynt yn awr ac yn y man, a deuai'r bechgyn a'r merched yn fyw ger ei bron fel yr oeddynt yn yr ysgol gynt. Pan welodd yn y papurau hanes rhyfedd Llew Llwyd a'i chwaer Myfanwy, tynnodd allan eu llythyrau hwy o blith y lleill a darllenodd hwy drachefn. Yr oeddynt yn ddwbl ddiddorol erbyn hyn. A oedd rhywbeth ym mwriadau cynnar y ddau hyn yn awgrymu dyfodol mor gyffrous? Beth bynnag am hynny, ni ddymunasent erioed am anturiaethau o'r math a ddaeth i'w rhan. Dyma'r ddau lythyr:

Brynteg,
Glyn y Groes,
Gorffennaf 20, 19—
ANNWYL ATHRAWES,

Ar ôl gadael yr ysgol, hoffwn fod yn ddarganfyddwr fel Livingstone neu Stanley. Awn i Affrica i saethu teigrod a llewod ac anifeiliaid gwylltion eraill. Byddwn bron â chael fy lladd, ond achubid fi gan fy ngweision duon. Yna, un dydd, ymladdem