Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amgylchiadau. "Ni wyddis i ba le yr arweinir y plant yma eto," meddai yn ei meddwl. "Efallai y byddant yn diolch i mi eto am eu dysgu i wneud pethau'n iawn. Nid oes rhaid i ni fyw fel barbariaid er ein bod yma wrthym ein hunain."

Ni ddibynnent yn hollol ar y pethau a gawsent o'r llong. Yr oedd ganddynt un gwn a dau fwa a saeth. Yr oedd hela a physgota yn rhan fawr o waith y dynion. O'r llong y cawsent eu llestri coginio. Dysgodd Madame Myfanwy i wneud cawl, i rostio cig, ac i wneud llawer o ddysgleidiau blasus â'r pethau oedd ganddynt.

Trefnodd Madame fod y plant yn eu tro i wasanaethu wrth y bwrdd, a bod pob un i wneud ei hun mor daclus ag oedd modd cyn dechreu'r pryd. Hefyd, cai'r tair iaith eu lle yn eu tro. Saesneg a siaradai pawb un noson. Ffrangeg y noson ddilynol a Chymraeg y noson ar ôl honno. Siaradai Myfanwy Ffrangeg yn rhugl erbyn hyn. Hi oedd fwyaf yng nghwmni Madame. Medrai'r bechgyn a Mr. Luxton ddigon ohoni i gario ymlaen ymddiddan syml. Yr oedd y siarad yn fwy cyffredinol ar noson y Saesneg. Nid oedd Madame yn hidio dim pan wnai gamgymeriadau. Rhaid addef mai'r plant a siaradai fwyaf ar noson y Gymraeg, ond dysgai Madame yn gyflym,—yn llawer cyflymach na Mr. Luxton, ac yntau'n ysgolfeistr hefyd,

Cafwyd difyrrwch mawr lawer gwaith ar ginio yn "Y Neuadd, Bordeaux, Ynys Pumsaint."

Dacw hwy ar ginio ar yr ail o Fehefin, Llew oedd