Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad neu'r ynys,—" Mili-land" y galwai hi'r lle. Edrychai'n hiraethus tua'r gorwel, a gofynnodd Mr. Luxton iddi:—

"A gawn ni fynd yno bob un yn y cwch?"

Siglodd ei phen, a rhywbeth fel hyn oedd ei hateb:—

"Sposum pappa belong Mili see boat first, he knock head belong me. Me go finish. By'n by he kill you,— one, two, tri fellow man, one two Mary fellow. You no good. You all dead."

("Beth pe gwelai tad Mili y cwch yng nghyntaf. Rhoddai ergyd i mi ar fy mhen nes byddwn farw. Yna lladdai chwithau bob un,—y tri dyn a'r ddwy fenyw. Byddech i gyd wedi marw.")

Yr oeddynt i gyd o'r un farn â Mili. Cododd chwant enbyd arnynt i fynd wedi deall bod ynys yn y golwg o fewn eu cyrraedd. Ond beth os aent i ganol anwariaid?

Cawsant lawer cip ar fywyd yn y rhan honno o'r byd drwy'r geiriau cymysg a fwrlymai weithiau o enau Mili. Un diwrnod aethant i "Glyn y Groes" a thrwy'r arcêd i le'r deml fel o'r blaen. Dangosodd Mili gyffro anghyffredin. Er dileu llawer o'r olion gan dyfiant y prysgwydd, yr oedd digon ar ôl i beri iddi hi adnabod y lle. Gwyddai ystyr y llwybr troeog dan y coed a'r man ysgwâr ar ei derfyn, a'r polyn a'r llun pen dyn arno. Gwaeddodd ar Madame a Myfanwy i ddyfod yn ôl. Ni chaniateid i fenywod sangu ar y lle cysegredig. Edrychodd yn frawychus, a dywedyd:—

"One fellow man, two fellow man, much flenny fellow mans been come here. Fire, long pig, dance, eat, beat