Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoddai Mili i'r pump lu o feddyliau i'w cyffroi a'u hanesmwytho.

Amlwg oedd bod llongau yn galw yn yr ynys neu'r tir ar y gorwel, a bod dynion gwynion yn dyfod yno. A hwythau'r pump alltud yma fel wedi eu torri o blith y rhai byw, a gwaredigaeth, efallai, o fewn cyrraedd iddynt. Sut dderbyniad a gaent os mentrent yn ddiamddiffyn yn eu cwch bychan dros y môr mawr? Os mai i ddwylo'r anwariaid yr aent, efallai mai dyfod yn ôl tua "Glyn y Groes" yn garcharion i gael eu bwyta yno a fyddai eu tynged. Nid oeddynt yn siwr yr hoffent fynd i ddwylo'r dynion gwynion chwaith. Y mae'r dynion sydd â'u holl fryd ar gasglu perlau yn aml yn ddidostur a diegwyddor, yn fwy anwar na'r anwariaid eu hunain. Gwell oedd aros ar Ynys Pumsaint, ond edrychent o hyd yn hiraethus i gyfeiriad y tir pell.

Aethant bob un yn y cwch un bore dan arweiniad Mili. Aethant heibio genau'r afon ac ymlaen heibio "Glyn y Groes." Yna gorchmynwyd iddynt fynd i ymyl y rhibyn i fan lle'r oedd pwll llonydd. Heb rybudd, neidiodd Mili ar ei phen i'r dŵr. A hwythau'n edrych ar ei gilydd mewn syndod mud, daeth i'r wyneb, a thaflu dwy gragen i'r cwch. I lawr â hi drachefn a thrachefn nes cael dwsin o lymeirch. Mewn wyth allan o'r dwsin yr oedd perl pinc hardd.

Daethant i'r un lle lawer diwrnod wedi hynny. Hwnnw yn wir oedd cartref y perlau. Weithiau byddai ganddynt domen fawr o lymeirch ar y traeth yn aros i wres yr haul eu hagor. Dyna waith cyffrous oedd cyfrif y perlau!