Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gweld y ci a wneuthum. Ci bach fy chwaer ydyw. Fi wnaeth yr enw yna ar y rhuban. Yr oeddem wedi rhoddi heibio bob gobaith am weld fy chwaer a'i gŵr. A wyddoch chwi rywbeth am danynt? A ydynt yn fyw?"

"Diolch i chwi am ddyfod yma," ebe Madame. "Ac y mae Socrates yn eich cofio! Eisteddwch Miss—

"Mrs. Angus. Mrs. Carey oedd fy chwaer,—Câro Carey. Ei henw hi a roisant ar y llong hefyd. Dim ond dwy chwaer oeddem, heb dad na mam. Gyda mi a'm gŵr yr oedd Caroline yn byw cyn iddi briodi. Aeth ei gŵr a hithau allan am fordaith yn y Câro Carey o Brisbane. Yno yr oedd eu cartref. Ni chlywyd dim o'u hanes hwy na'r llong byth wedyn. Bernid fod y llong wedi mynd yn ddrylliau yn y storm fawr honno."

A! Ie. Felly y bu," ebe Madame.

"Ond dyma Socrates gyda chwi," ebe Mrs. Angus, a'i llygaid yn wyllt. 'A yw yn bosibl fod fy chwaer yn fyw?"

Yna adroddodd Madame ei stori drist,—am ei bywyd hi a'r lleill ar yr ynys, am y storm, yr esgid, a'r llong, a sut y gwelsent y ci bach wrth gefn y drws. Dywedodd hefyd y fath fendith iddynt hwy a fuasai'r llong a'i chynnwys, ac mor hwyrfrydig oeddynt i wisgo'r dillad er cymaint o'u heisiau oedd arnynt, ond eu bod wedi defnyddio'r bwyd ar unwaith a'r dillad gydag amser, a'u bod wedi meddwl llawer am y rhai a gollodd eu bywydau i'w rhoddi iddynt.