Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Meredith a Llwyd yn Lloyd, ac felly yn y blaen. Gwneir yr un peth ag enwau merched. Ffurfiau Saesneg sydd ar y rhan fwyaf ohonynt,—Mary, Jane, Annie, Maud, Grace, Laura, Lizzie, yn lle Mair, Sian, Ann, Mallt, Gras, Lowri, a Leisa. Dechreuodd y saer ysgrifennu ei enw yn Gymraeg—" Meredydd Llwyd." Gydag amser, daeth ei gymdogion i'w alw wrth yr un enw. Pan gafodd fab a merch, gofalodd ddechreu'n iawn gyda'u henwau hwy. Llewelyn Llwyd," a "Myfanwy Llwyd" a roddwyd ar lyfrau'r cofrestrydd ac ar lyfrau'r ysgol.

Brynteg oedd enw eu cartref. Tŷ bach hardd a glân ydoedd, ynghanol y wlad. Yr oedd tua milltir rhyngddo â phentref bach Glyn y Groes. Yr oedd gardd dda tu ôl i'r tŷ. O'i gylch yr oedd caeau glâs. Yno porai dwy fuwch a degau o ieir. Nid oedd rhent ar y saer i neb. Ei eiddo ef oedd y lle.

Dyna deulu bach hapus oedd teulu Brynteg! Carai'r tad a'r fam eu plant yn fawr, ond ni roisant eu ffordd eu hunain iddynt. Dysgasant hwy i fod yn ufudd; yna, wedi iddynt dyfu, nid oedd eisiau eu gwylio a'u ceryddu. Carent hwythau eu rhieni a pharchent hwy. Daeth y plant fel y rhieni i hoffi darllen a meddwl. Felly, aeth eu byd yn lletach. Yr oedd ganddynt bethau i'w diddori tuhwnt i'r tyddyn a siop y saer, a thuhwnt i'r cartref a'r ardal lle'r oeddynt yn byw. Ond nid yw bywyd neb yn para'r un fath o hyd. Fel y tyfai'r plant, daeth cysgod cyfnewidiadau dros y cartref bach. Daeth pryder hefyd i galonnau'r tad a'r fam.