Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Nawr mam, cofiwch!" ebe Gwen.

"O ie'n wir," ebe Mrs. Rhys, a chwerthin. "Rhaid i mi beidio ag anghofio."

"Beth sydd yn bod, ynteu?" ebe Mrs. Llwyd. "Ni welais i ti, Sâra, yn edrych erioed mor gyffrous. Beth sydd wedi digwydd?"

"Yr wyf yn siwr bod ganddynt ryw syndod mawr i'w roi i ni, mam," ebe Myfanwy.

"Byddwch yn synnu digon," ebe Mrs. Rhys. "Yr wyf heb orffen synnu fy hunan. Ond dyna ddigon. Cewch glywed y cwbl yn awr yn fuan."

"Wel, wel! Cawn de yng nghyntaf a holi wedyn, ynteu," ebe Mrs. Llwyd. "Tynnwch eich pethau, a dewch at y tân. Y mae'r cwbl yn barod ond rhoi te yn y tebot."

Erbyn hyn yr oedd y saer wedi dyfod adref. Daeth y ddau dad a'r ddau fab i mewn i'r tŷ. Dyna gegin lawn oedd ym Mrynteg y prynhawn hwnnw! Eisteddai wyth wrth y ford yn lle pedwar, ond yr oedd yno le i bawb a digon o fwyd ar eu cyfer. Gwyddai Mrs. Llwyd y ffordd i wneud pryd o fwyd blasus, a'i osod ar y ford mewn modd trefnus a deniadol. Nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneud er mwyn dangos croesaw i'w chwaer a'i theulu.

"Y mae'r ham yma'n rhagorol," ebe Mr. Rhys. "Sut gwyddech chwi, Anna, mai te a ham yw'r pryd goreu gen i bob amser?"

"Gwyddwn y byddai eisiau rhywbeth sylweddol arnoch ar ôl taith mor bell," ebe Mrs. Llwyd, "Y mae tarten riwbob i ddilyn, cofiwch," ebe Myfanwy.