Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y mae breuddwydio am y môr yn lwcus," ebe Gwen.

"Breuddwydia am Awstralia heno, er mwyn i ni gael bod yn siwr o fynd," ebe Llew.

"Efallai mai yn rownd i'r Cape of Good Hope y byddwn yn mynd, ac nid trwy'r Môr Canoldir," ebe Gareth.

Aeth Llew i'r tŷ i hôl ei atlas, a dyna lle bu'r pedwar ar bwys iet y lôn yn astudio map o'r byd, a Llew â'i bensil yn dangos y ddwy ffordd i Sydney.

"Y mae Myfanwy wedi breuddwydio eich bod chwithau bob un yn dod i Awstralia," ebe Gareth, pan oeddynt oll ar ginio.

"Y mae breuddwydion Myfanwy yn dod i ben ambell waith," ebe Mrs. Llwyd.

Erbyn bore Llun yr oedd penderfyniad pwysig wedi ei wneud. Os cai Meredydd Llwyd sicrwydd oddiwrth frodyr Mr. Rhys am waith cyson fel saer, a thŷ mewn man cyfleus, byddai'r ddau deulu yn ymfudo gyda'i gilydd ym mis Hydref.

Dawnsiodd y plant o lawenydd pan glywsant hyn. Byddai'n rhaid aros tri mis o leiaf, cyn ceid ateb o Awstralia, ond teimlai pawb ohonynt yn sicr mai mynd oedd i fod.

Tri mis hir iawn a fu y rhai hynny. Daeth yr ateb o'r diwedd, a phopeth yn ffafriol ynddo. Yna dechreuwyd paratoi o ddifrif am ymadael. Gwerth— wyd Brynteg yn fuan iawn am bris da. Cyn hir, gwelwyd yn ffenestri siopau'r pentref "bapurau acsion" a'r gair "Brynteg" mewn llythrennau bras