Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awyr ac yn y lli. Y rhieni a wnai hyn fynychaf. Yr oedd y pedwar ieuanc ar ôl eu mwynhau eu hunain drwy'r dydd yn ddigon parod am eu gwelyau pan ddeuai'r amser. Ni feddyliasai neb ohonynt erioed fod bywyd ar fwrdd llong yn un mor bleserus. Yr oeddynt yn byw yn union fel pe baent mewn gwesty mawr. Yr oedd yno ddigon o chwarae a chanu y darllen a siarad, a digon o gwmni. Yr oedd yn bosibl gwneud ffrindiau newydd o hyd. Saeson oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr. Yr oedd yno rai Cymry hefyd heblaw hwy eu hunain, Iddewon, Ffrangwyr a Hispaenwyr. Yr oedd gweld y gwahanol genhedloedd a'u clywed yn siarad yn ddiddorol iawn. Cenid cloch i'w galw at fwyd, yna, i lawr â hwy dros lawer o risiau i'r ystafell ginio fawr. Yr oedd ystafelloedd eang eraill ar y llawr, ond ar y dec y treulient hwy y rhan fwyaf o'u hamser. Ni flinai'r bechgyn wylio'r morwyr wrth eu gwaith.

Pan ddaethant yn agos at Malta dywedodd Meredydd Llwyd :—

"Dyma'r lle mwyaf diddorol a welais i eto. Dyma'r ynys y taflwyd yr Apostol Paul arni pan dorrodd y llong yn y storm ofnadwy honno."

Edrychodd pawb yn sýn.

"Wel! Wel! Dyna beth rhyfedd yw meddwl ein bod ni ar fôr y bu Paul arno. Mi ddarllenaf y ddwy bennod olaf yn yr Actau heno, a byddant yn fwy diddorol nag erioed," ebe Ifan Rhys.

"Y mae gen i Feibl yn fy mhoced. Cei eu darllen yma yn ein clyw ni," ebe'r saer.