Pan ddaethant i'r Môr Coch, synasant ei weld mor debig i bob môr arall. Yr oedd y tywydd boeth. Yr erbyn hyn bron yn annioddefol o oedd yn dda gan Myfanwy a Gwen fod dillad haf ganddynt. Yr oedd y dillad a wisgent ar ddechreu'r daith ar waelod eu cistiau erbyn hyn. Taflai haul y Trofannau ei wres tuag atynt yn ddidrugaredd.
Pan ddaethant ar y dec un bore ymhen tuag wythnos wedi gadael Aden, dywedodd Myfanwy:—
"O, dyma arogl hyfryd!"
"Yr wyf innau'n ei glywed hefyd," ebe Gwen. "Coginio rhywbeth y maent yn y gwaelod yna," ebe Gareth.
"Coginio'n wir!" ebe Llew. "O, dyna dri anwybodus ydych!"
"O, mi wn i beth ydyw," ebe Myfanwy. "Arogl coffi a cloves—arogl Ceylon."
Yr oedd Myfanwy'n iawn. Yn fuan, daeth yr ynys i'r golwg ar y gorwel, a chyn diwedd y dydd yr oedd y llong ym mhorthladd Colombo.
Nid oedd neb o'r cwmni Cymreig yn deithwyr digon profiadol, neu buasent wedi glanio a mynd i'r dref am ychydig oriau, fel y gwelent rai o'r lleill yn gwneud. Arhosai'r llong yma fel yn Suez ac Aden a lleoedd eraill i dderbyn stoc newydd o lô. Byddai eisiau stoc dda y tro hwn, oherwydd tir Awstralia a welent nesaf.
Wrth adael Ceylon, gadawent y Dwyrain o'u hôl. Gadawsent y Gorllewin wrth ddyfod i mewn i'r Môr