Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un peth byw ond hwy eu hunain. Ni chlywent sain aderyn na bref anifail. Gwenai'r haul yn yr awyr asur a gwenai popeth yn ôl arno.

Yr oedd y rhibyn cwrel fel rhyw fraich drugarog am yr ynys—os ynys ydoedd yn cau allan bob aflonyddwch a berw a llid.

"O!" ebe Gareth, "dyna dda ein bod ni'n fyw!"

"Am râs â fi hyd y graig fan draw ac yn ôl," ebe Llew.

Ymaith â hwy fel y gwynt, a'u cyrff yn disgleirio yn haul y bore. Yr oeddynt yn hollol sych pan ddaethant yn ôl, a dechreuasant wisgo ar frys.

'Nid oes eisieu'r dillad hyn i gyd yn y lle hwn," ebe Gareth.

"Byddem yn ddigon cynnes heb ddim," ebe Llew. Wedi ystyried am ychydig, gwisgodd pob un ei grys a'i lodrau a'i esgidiau. Cariasant eu dillad eraill er mwyn eu rhoddi'n ddiogel yn rhywle.

"Beth wnawn ni pan dreulia'r rhai hyn?" ebe Llew.

"O Llew annwyl! Ni fyddwn yma'n hir," ebe Gareth. "Yr ydym yn sicr o weld llong yn pasio. Efallai y daw un heddiw, ac y byddwn wedi mynd oddiyma cyn y nos."

Ac efallai y byddwn yma am flwyddyn neu am flynyddoedd. Cofia am Robinson Crusoe a'r Swiss Family Robinson," ebe Llew.

"Pe bai mam a nhad a Gwen yma, a dy fam a dy dad dithau, buaswn i'n fodlon aros yma am byth," ebe Gareth.