Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Daethom yma felly ar ddydd Iau, y trydydd dydd ar ddeg o Dachwedd. Rhaid i ni gadw cyfrif o'r dyddiau. Gwna'r dyddiadur yma'r tro hyd ddiwedd y flwyddyn. Rhoddwch farc gyferbyn â'r dyddiad ar ddiwedd pob dydd. Bydd yn rhaid i ni ddyfeisio rhywbeth ar gyfer y flwyddyn nesaf."

"Y mae almanac am y flwyddyn nesaf ar ddiwedd y dyddiadur," ebe Myfanwy. "Rhagorol. Gwna hwnnw'r tro'n iawn."

"Ond gobeithio na fydd ei eisiau arnom," ychwanegai Myfanwy.

"Ie, fy merch annwyl. Dyna'n gweddi ni bob un," ebe Mr. Luxton.

"Fechgyn! Dewch i olchi'r cwch yma cyn awn o'r fan. A dyma drysorau."

Yn y cwch cawsant focs tin arall, cot a adawsai rhyw druan ar ôl, pâr o esgidiau ar ôl rhywun arall, darn hir o raff gref, dau rwyf, a blychaid o Swan Vestas.

Gadawaf y pethau gwerthfawr hyn yn eich gofal chwi, Myfanwy," ebe Mr. Luxton. "Da chwi, byddwch ofalus ohonynt. Os cawn rywbeth i'w goginio, bydd yn dda i ni gael tân."

Wedi golchi'r cwch, clymasant ef â'r rhaff yn ddiogel wrth ddarn o graig mewn man cysgodol. Yna aeth Mr. Luxton a Gareth ar eu taith.