Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Gwell cael un neu ddau arall ato," ebe Gareth.

"Nid oes amser yn awr. Gallwn gael digon eto bryd y mynnom. Bydd yn ddefnyddiol iawn i ni at lawer o bethau. Gallem wneud dillad ohono, pe bai angen."

"Lemonêd, hufen, cig a dillad ar yr un pren!" ebe Gareth.

Ar ochr arall y nant yr oedd y pren banana, a'i ddail yn chwe troedfedd o hyd a hanner cymaint â hynny o led, a'i glystrau o ffrwythau yn hanner ymguddio rhyngddynt. Nid oedd coed tál rhyngddo â'r traeth, a da oedd hynny, neu ni buasai Llew wedi ei weld ar y foment yr oedd cymaint o'i angen. Penderfynasant beidio â chario bananau gyda hwy ar eu taith, gan y byddent yn debig o gael digon i'w fwyta pa le bynnag yr aent.

Yn fuan, dechreuasant ddringo'n raddol. Tyfai yma lawer math o goed mawrion, a'u dail llydain. bron â chau allan oleuni'r haul. Drwy brysgwydd tew y cerddent. Yr oedd pob un o'r ddau wedi gofalu arfogi ei hun â ffon gref cyn cychwyn. Bu'n rhaid defnyddio'r ffyn yn awr i agor llwybr o'u blaen. Ymblethai'r liana gwydn am eu traed nes bron â'u rhwystro i symud. Yr oedd ar Gareth ofn sathru ar seirff neu gyfarfod â baedd gwyllt neu lew neu ryw greadur ffyrnig arall. Aethant ymlaen o gam i gam heb i ddim annymunol felly ddigwydd.

Daethant at le mwy agored. Ni welodd neb le harddach erioed. Bwrlymai ffynnon risial o dan ddarn o graig, a llifai fel llinyn arian drwy garped