Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â'r pigyn gwelent dyrrau o goed isel. Beth oedd tuhwnt i'r pigyn, ai môr neu dir, ni wyddent.

Yr oedd golygfa hardd iawn o'u blaen. Ar dair ochr iddynt yr oedd y môr. O'r pellter hwnnw ymddangosai, yn unol â'i enw, yn Fôr Tawel. Ar yr ochr dde ac o'u blaen gwelent y rhibyn cwrel a'r lagŵn dawel o'i fewn. Ni fedrent weld a oedd y rhibyn hefyd ar yr ochr chwith. Nid oeddynt yn ddigon uchel, oherwydd tuhwnt i'r dyffryn cul y daethent drwyddo yr oedd bryncyn arall, a rhwystrai hwnnw hwy i weld y traeth. Awyddai Gareth fynd ymlaen ar ben y bryn hyd ei gwrr pellaf, ond barnai Mr. Luxton y byddai'r daith yn rhy bell iddynt fedru cyrraedd yn ôl at y lleill cyn machlud haul.

"Rhaid i ni adael ein gwaith ar ei hanner heddiw, Gareth, a dyfod eto yn y bore bach yfory, ebe Mr. Luxton. "Y mae'n bwysig i ni wybod ai ar ynys yr ydym yn byw."

"Nid oes neb arall yn byw yma, beth bynnag, neu buasem wedi eu gweld neu weld eu hôl rywle.

"Gobeithio er mwyn popeth nad oes."

Aethant yn ôl, hyd y gallent, dros yr un llwybr, ond buont yn hir iawn cyn dyfod at y ffynnon, ac wedi dyfod, temtid hwy i aros a sylwi ar y gwahanol ffrwythau.

"Hwre!" ebe Mr. Luxton yn sydyn, "Dyma fi wedi cael y Pren Bara. Edrychwch! A welsoch chwi dorthau yn tyfu ar bren o'r blaen?"

Syllu'n sýn a wnaeth Gareth. Pren tebig ei faint i bren afalau mawr ydoedd, a'i ddail yn rhai mawr a