Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth arogl hyfryd i'w ffroenau,—arogl pysgod yn rhostio. Rhedasant ymlaen er trymed eu beichiau.

Nid oedd y "teulu gartref" wedi treulio'r dydd yn segur. Heb na rhwyd na bach daliasai Llew a Myfanwy nifer o bysgod yn y lagŵn. Rhyw fath o ysgadan oeddynt. Dywedodd Madame eu bod yn dda i'w bwyta â dangosodd y ffordd i'w glanhau. Yn awr yr oedd y tri yn dál un ymhob llaw ar flaen gwialen fain wrth y tân mawr, ac yr oedd y swper flasus bron â bod yn barod. Dyna groesaw a gafodd Mr. Luxton a Gareth ar ôl eu taith bell!

"Trueni na bai gennym dipyn o fara a chwpanaid o de gyda'r pysgod yma," ebe Myfanwy.

"Gallwn fyw heb de," ebe Mr. Luxton, ond y mae Gareth a minnau wedi gofalu am ddigon o fara."

Edrychodd y tri eraill yn sýn iawn.

"Bara!" ebe Llew. "Pa le y cawsoch ef?"

"Ei brynu, wrth gwrs, yn siop y pentref," ebe Gareth.

"Edrychwch!" ebe Mr. Luxton, a dangos y torthau. "Bara heb ei bobi ydyw. Gallwn ei bobi'n awr ar y tân yma."

"O, dyna fara!" ebe Myfanwy gyda dirmyg.

Tyfu ar bren y mae hwnyna. Y mae fel lemon mawr heb aeddfedu."

"Ah! L'arbre à pain," ebe Madame.

"Ie," ebe Mr. Luxton. "Hwn yw prif fwyd llawer o bobl fel y mae bara gyda ni. Synnwn i ddim nad yw'n llawn mor faethlon â bara, a llawn mor flasus hefyd ar ôl ei goginio. Cawn ei brofi 'n awr,"