Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Trueni bod y siop felysion mor bell, onide Myfanwy?" ebe Gareth.

"Os deuwn yn ôl ffordd yma, cofia dorri lot dda," ebe Myfanwy.

Cyn cyrraedd copa'r bryn gofynnodd Mr. Luxton i'r bechgyn dorri deilen fawr ar gyfer pob un i'w defnyddio'n gysgod rhag yr haul pan adawent y goedwig.

Daethant allan lawer yn uwch i fyny na'r diwrnod cynt. Am amser ni wyddent eu bod ar ben y bryn, oherwydd yr oeddynt ynghanol coed o hyd. Yr oedd y darn gwastad moel ymhell o'u hôl. Yna daethant allan yn sydyn a gweld eu bod o fewn tua dau can llath i'r pigyn uchaf. Rhedodd y plant ymlaen yn gyffrous. Ai'r lle yn fwyfwy serth fel yr aent ymlaen. Dyna hwy ar y brig, a Madame a Mr. Luxton yno bron cyn gynted â hwythau. A dyna neges y daith wedi ei chyflawni.

Ie, ynys ydoedd. Edrychodd y pump yn hiraethus ar yr ehangder o fôr oedd o'u cylch ymhob cyfeiriad, a'r ynys fechan y safent arni ond megis botwm ar wyneb y dyfnder mawr. Pa le yr oeddynt? Pa beth oedd tudraw? Pa le yr oedd eu rhai annwyl? Ai ar yr ynys unig hon y treulient eu hoes ac y byddent farw?

Dawnsiai'r môr dan wenau'r haul, a'r unig sŵn a glywent oedd cri'r gwylanod ar y creigiau islaw.

Wedi'r cyfan yr oedd yn dda ganddynt mai ar ynys yr oeddynt ac nad oedd ynys arall yn y golwg. Yr oeddynt mewn llai o berigl felly. Gwyddent oddiwrth yr hin ac oddiwrth ffrwythau'r ynys mai yn