Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y lagŵn. Yr oedd crib fach Myfanwy a'r drych oedd ar glawr bag Madame yn bethau defnyddiol iawn erbyn hyn.

"Trueni na bai gennym ddillad dydd Sul i'w gwisgo heddiw," ebe Myfanwy.

"Yr oedd gennyf i gistiaid o'r dillad harddaf," ebe Madame gydag ochenaid. "Beth a wnawn pan dreulia'r rhai hyn?"

"Peidiwch â gofidio, Madame. Daw dillad i ni o rywle pan fydd eu heisiau arnom. Synnwn i ddim eu gweld yn tyfu ar y coed yn y lle rhyfedd hwn," ebe Myfanwy.

Wedi borefwyd, darllenodd Mr. Luxton y ddegfed Salm wedi'r pedwar ugain o'i Feibl Saesneg. Darllenai yn araf iawn, fel y gallai Madame ei ddilyn. Yna darllenodd Llew o'i Feibl Cymraeg y paragraff olaf o'r chweched bennod yn Efengyl Mathew. Dilynai Mr. Luxton a Madame yr adnodau o un i un yn y Beibl Saesneg. Synnai'r ddau fod Llew yn gwybod ar unwaith felly am ddarn mor darawiadol i'w ddarllen. Yna canodd y tri phlentyn gyda'i gilydd emyn Cymraeg. Yn sydyn, heb i neb ofyn iddi, dywedodd Madame:—

"Rhaid i minnau wneud fy rhan. Mi wn un Salm. Mi a'i hadroddaf i chwi yn awr. Y drydedd Salm ar hugain yw hi."

Dyma'r Salm fel yr adroddodd Madame hi:—