Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aethant i gyfeiriad arall y tro hwn,—i gyfeiriad y De. Nid oedd neb ohonynt wedi crwydro ond rhyw ychydig gamau i'r cyfeiriad hwn o'r blaen. Rhan ydoedd o'r traeth y methasent ei weld o ben y bryn. Yr oedd y plant mewn hwyl. Dywedent ynddynt eu hunain eu bod yn cael taith ymchwil wedi'r cwbl, er mai dydd Sul ydoedd.

Yn union wedi mynd heibio'r trwyn cyntaf beth a welent ond Pren Bara mawr yn tyfu ar fin y traeth a digonedd o ffrwyth arno. Yr oeddynt yn falch neilltuol i'w weld. Ni fyddai'n rhaid cario bara o bell ffordd mwy. Y mae siop yn ymyl eich drws yn gyfleus iawn.

Traeth cul oedd ar yr ochr hon. Yr oedd y rhibyn cwrel, hefyd, yn agos iawn,—lai na chwarter milltir oddiwrthynt. Gwelent yn eglur y palmwydd cnau a rhai coed main eraill a dyfai arno.

"Pwy adeiladodd y wal yna o gylch yr ynys?" gofynnai Myfanwy.

"Dod ei hunan a wnaeth," ebe Gareth.

"Creaduriaid bach a'i hadeiladodd," ebe Llew. "Paid â siarad dwli, Llew," ebe Myfanwy, yn Gymraeg.

"Y mae gennyf i, neu yr oedd gennyf—raff hardd iawn o gwrel coch ymhlith pethau eraill yn fy nghist sydd yn awr ar waelod y môr," ebe Madame, "ond ni wn i ddim sut y gwnaed y cwrel."

"Y mae creaduriaid bach rhyfedd iawn yn byw yn y môr yn y rhan hon o'r byd," ebe Mr. Luxton.