'Nid oes perigl tra byddom yn y cwch. Pe gadech eich coes neu eich braich i hongian dros ymyl y cwch yn y dŵr ni byddai'r siarc yn hir cyn gafael ynddi. Y mae'n hoff iawn o gnawd dynion. "Dacw un arall!" gwaeddai Gareth. "Y mae'r lle yma'n fyw ohonynt."
Ni feiddiai Mr. Luxton a Llew aros ar eu rhwyfau na symud o'u lleoedd i edrych rhag ofn dymchwelyd y cwch. Dywedodd Madame fod yn well ganddi hi beidio â gweld y creaduriaid rheibus. Rhwyfasant ymlaen yn ddistaw a daethant yn fuan i ochr ddeheuol yr ynys. Nid oedd y creigiau mor uchel a gwgus yno. Yr oedd yno hefyd ambell fan bach hyfryd rhwng y creigiau. Daethant i dir mewn hafan fach ddymunol. Yr oedd eisiau gorffwys ar y rhwyfwyr ac eisiau bwyd ar bawb.
Ni allai'r plant fod yn llonydd yn hir. Dringodd Gareth a Myfanwy un o'r creigiau ac aethant i mewn i'r wig i edrych beth a welent. Daethant yn ôl yn fuan iawn a nifer o wrysg pytatws a gwreiddiau mawr gymaint â'u dyrnau yn hongian wrthynt, Teimlent bob un yn falch o'r darganfyddiad pwysig. Aeth Llew yn ôl gyda hwy i'r un lle, a daeth y tri â chymaint ag a fedrent eu cario o'r pethau gwerthfawr, er mwyn eu cymryd gyda hwy yn y cwch. Addawodd y bechgyn ddal digon o bysgod fel y caent swper iawn ar ddiwedd y dydd.
Pwy garai fynd hyd at y rhibyn yn awr ar ein ffordd yn ôl?" ebe Mr. Luxton.
"Y mae ofn yr hen bysgod mawr yna arnaf i," ebe Myfanwy.