Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymerodd gyllell Gareth a gwnaeth agen fechan ar wyneb caled darn o bren bambŵ. Torrodd ddellten fechan o un pen i'r pren a naddodd hi'n ofalus. Yna, tra daliai Llew y pren rhwbiodd Mr. Luxton y ddellten yn ôl a blaen ar yr agen. Yr oedd yn rhaid rhwbio'n galed a chyflym. Ar ôl rhai munudau o'r gwaith egniol hwn, daeth colofn fach fain o fwg o'r agen, ac yna fflam fach goch. Yr oedd Gareth yn barod gyda darn o ddeilen grin ac ychydig fanwydd, a dyna'r tân wedi ei wneud.

Nid oedd eisiau pryderu bellach na chaent dân hyd yn oed pe defnyddient eu matsien ddiwethaf. Mynd yn llai o nifer oeddynt yn y blwch bob dydd. Ychydig a feddyliai Mr. Luxton pan ddarllenai gynt am ffordd trigolion Ynysoedd Môr y De o wneud tân y byddai ef ei hun yn gwneud yr un peth ryw ddiwrnod.

Aeth Madame a Myfanwy gyda hwy drannoeth i weld yr ogof. Ni ellid ei chanfod o'r traeth heb chwilio am dani. Yr oedd talpiau mawr o graig wrth ei genau, a'r agoriad yn gul fel na allai ond un fynd drwyddo ar unwaith. Yna ymagorai'n sydyn yn ystafell fawr tuag wyth llath o hyd a phum llath o led, a diweddu yn llwybr pigfain i grombil y graig. Deuai digon o awyr i mewn trwy'r agoriad, oherwydd, er ei fod yn gul, yr oedd cyn uched â'r graig. Yr oedd y muriau'n sych a'r llawr yn galed a glân. Teimlent yn sicr na fu neb yno erioed o'u blaen hwy.

Safodd Myfanwy ac edrych o'i chylch a'i llygaid yn llydan agored.