Tudalen:Brithgofion.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond clywais am lawer oedd wedi gweled bwganod neu ysbrydion. Ar y ffordd fawr heibio fy nghartref yr oedd tri neu bedwar o leoedd â bwganod ynddynt yn ôl y sôn a byddai ar ferched gweini ofn mynd heibio'r mannau hynny yn y nos. Lleoedd oeddynt yng nghysgod coed. neu yn ymyl rhyw hen furddyn. Sonnid bod arian wedi eu cuddio yn agos i le a elwid Rhyd yr Arian rai milltiroedd o'r pentref, a dywedid y dôi mellt a tharanau os âi rhywun i chwilio am y trysor. Cof gennyf fynd yn un o hanner dwsin o hogiau, ar fore haf, i chwilio am yr arian cudd, ond cyn i ni fynd ymhell, daeth sŵn taranau yn y pellter. Gwrandawsom ennyd yng nghysgod hen furddun. Gwaethygu yr oedd y sŵn. Barn yr arweinydd oedd mai gwell i ni droi yn ein holau, ac felly y bu. Dywedai plant hefyd fod hen ddynion bychain i'w gweld yn y nos o gwmpas tŷ hen gymeriad od, a chŵn cymaint â mulod yn y cae yn ymyl y tŷ. Dysgid ni nad oedd dim gwir mewn ystraeon felly, ac nid wyf yn cofio amser pryd y byddai arnaf eu hofn. Credu yr wyf fod cyfnod cred gyffredin mewn pethau o'r fath wedi darfod yn yr ardal, ond yr oedd cred yn yr arwyddion tywydd yn ddiau yn parhau o hyd. Cof gennyf glywed fy mam yn dywedyd wrth gymdoges ryw ddiwrnod fod ei morwyn wedi mynd i" ollwng gwaed." Ni wyddwn beth yn y byd oedd ystyr hynny, ond yn ddiweddarach deuthum i wybod bod hen syniadau am feddyginiaethau yn beth digon cyffredin, megis swyno dafadennau oddiar ddwylo neu rannau eraill o'r corff, eu rhwbio â malwen a dodi'r falwen wedyn ar bigyn draenen ddu; rhwbio'r dafadennau â darn o donnen cig moch ac yna claddu'r donnen mewn tomen dail; neu eu golchi â dŵr glaw wedi sefyll mewn ceubren derw, a gadael iddynt sychu ohonynt eu hunain. Fel y byddai farw'r falwen ar y pigyn draenen, fel y bwyteid y donnen gan bryfetach yn y domen, ac fel y sychai'r dŵr o'r ceubren ar y dwylo, diflannai'r dafadennau, meddid, a cheid digon o bobl ddeallus i dystio bod hynny'n wir. Dywedodd meddyg wrthyf yn ddiweddar iawn am wraig a aeth ato ef a'i dwylo wedi eu gorchuddio â mân ddafadennau. Dywedodd yntau wrthi na ellid eu trin bob yn un, ag yno gynifer ohonynt, ond y trefnai ef i droi golau arbennig arnynt. Aeth i'w gwleed ym mhen rhyw wythnos neu bythefnos. Ac yr oedd y