Am ddifyrrwch cyhoeddus, byddai darlithiau yn dra chyffredin, yn enwedig darlithiau â digon o fân ystraeon digrif ynddynt am ryw hen gymeriadau neu am wledydd tramor, yn arbennig os byddai gan y darlithwyr wisgoedd ac arfau i'w dodi am ac yn llaw un o'r brodyr i'w dangos. yn ystod y ddarlith. Dôi taflwr llais neu ddau, o Gymry glân, heibio ar dro, er mawr ddifyrrwch i bawb, hen ac ieuainc. Ceid cyfarfodydd cystadleuol hefyd tua'r Nadolig a'r Calan, a byddai canu carolau a gwasanaeth pylgain yn yr eglwysi. Ai'r plant yn dyrrau i "hel clennig," ond ystyriai'r ffermwyr a phobl gyfrifol felly nad gweddus. fyddai hynny i'w plant hwy, er tipyn o siom i'r plant eu hunain, nad oeddynt eto mewn "oed cyfrifol." Bûm gyda thwr o blant un waith ar y perwyl hwnnw. Gefais ddwy geiniog a dau afal coch melys iawn, a cherydd ar ôl cyrraedd adref. Nid euthum byth wedyn, canys nid oedd wiw torri ar draws arferion y dosbarth. Digon i ni fyddai cael estyn ceiniog i bob un o'r eirchiaid a ddôi heibio ddydd Calan Ionawr, dysgu haelioni ac urddas traddodiad, a gwisgo'n dillad ail-orau ar ddiwrnod gwaith.
Ni byddai marchnad na ffeiriau yn y pentref, ond byddai dydd Sadwrn yn ddiwrnod negesa pobl o'r wlad, a'r siopau'n brysurach nag arfer yn y prynhawn a chyda'r hwyr. Nid oeddis eto wedi dechrau goleuo'r ystrydoedd wedi iddi dywyllu. Byddai diwrnod Cerdded y Clwb yn rhyw hanner gŵyl. Dôi'r Clwb yn y bore, a band mewn dillad unsut amdanynt a brêd melyn arnynt ac ar y capiau bach crynion a wisgai'r bechgyn, braidd ar ochr y pen a charrai o ledr tenau gloywddu am yr ên i'w cadw yn eu lle. Ymdeithient ar hyd prif heol y pentref, tan ganu eu cyrn pres, a symudiadau curwr y drwm mawr a'r drwm bach yn rhyfeddod i'w gweld. Merched a phlant bach yn eu breichiau yn sefyll yn y drysau i'w