Tudalen:Brithgofion.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agorwyd yr ysgol ar ôl y gwyliau, yr oedd yno Feistr newydd, dyn bach tawel ac eithaf caredig. Dysgem dipyn gyda hwnnw, ac aeth " chware triwel" yn beth prinnach. Yr oedd y Meistr newydd hyd yn oed yn medru gwneud dysgu yn beth gweddol ddifyr i ni, ac yr oedd y disgybl-athrawon wedi deall bod yr hen oruchwyliaeth yn darfod.

Eto, yr oedd hen arferion tylwythol yn aros ymhlith y plant o hyd, y tu allan i'r ysgol. Y ddadl rhwng capel ac eglwys, wrth gwrs, ond peth cymharol ddiweddar ac achlysurol oedd honno, gyferbyn â'r hen elyniaeth rhwng y naill blwyf neu bentref a'r llall. Pan ddôi "hogyn newydd" i'r ysgol byddai raid iddo dalu am ei eni lle'i ganed drwy ymladd â phen ymladdwyr yr ysgol, neu gymryd ei alw wrth enw oedd yn anghyfiawnder mawr â'r ci fel creadur. Gwelais lawer brwydr felly. Yn wir, bu raid i mi ymladd fy hun â hanner dwsin, o leiaf, o'r penaethiaid cyn cael fy nhraed tanaf. Yr oedd arnaf eu hofn, gwir yw, ond cymerais fy siawns, yn hytrach na chael yr enw a gawswn am wrthod. Wrth lwc, yr oedd gwas yng ngwasanaeth fy nhad wedi bod drwy'r driniaeth ei hun yn ei ddydd, ac wedi rhoi i mi gynghorion buddiol a charedig sut i "drin fy nyrna," wrth raid. "Os bydd raid i chi baffio," meddai, " tynnwch ddagra o'i lygid o â migwrn y bys canol, gwaedwch'i drwyn o, ac yno mi fydd popeth yn iawn, ond i chi gadw'ch pen yn oer."

Talodd cynghorion yr athro hwnnw i mi, a chefais lonydd wedyn, onid ar ryw ffrwgwd bersonol o dro i dro, heb fod a wnelai ddim â chymhleth y Ni a'r Nhw yn yr ystyr enwadol na phlwyfol. Nid wyf yn cofio chwaith i neb o'r penaethiaid geisio talu'r pwyth i mi ar ôl i mi fynd drwy brawf yr "hogyn newydd " yn weddol lwyddiannus. Nid oedd y plant yn yr ysgol hon, yn wir, mor greulon ag oeddynt yn y gyntaf, ac yr oeddwn innau'n adnabod mwy ohonynt, er mai "hogyn o'r wlad" oeddwn. Hyd yn oed pan fyddai raid ymladd, byddai'n rhaid cadw rhai rheolau. Ni châi dau fynd i ben un ar unwaith, ac ni chaniateid crimogi, er y torrid y rheolau ambell dro. Credu'r wyf bellach mai hen ffordd i ddieithryn gael ci le pan ddôi i'r hen gymdeithas gynt oedd wrth wraidd prawf yr hogyn newydd wedi'r cwbl.

Un haf, beth bynnag, bu brwydr fawr rhwng bechgyn