Tudalen:Brithgofion.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen draddodiadau ac arferion wedi aros. Darn-gedwid y rhai pennaf o'r Gwyliau Eglwysig, megis y Pasg a'r Sulgwyn, yn gyffredin, a chlywid sôn, a dim ond sôn, am "wyl mabsant" ("glabsant" a ddywedid ar leferydd cyffredin). Ar rai o'r gwyliau hyn, "Gwyl Domos" er enghraifft, âi tlodion a hen bobl i gael elusennau a adawsid iddynt o ewyllys da rhywrai gynt. Byddai dydd gŵyl hefyd ar Galan Mai ("Clamai" ar leferydd), amser cyflogi, ond nid wyf yn cofio gweled Dawnsio Haf, fel y ceid mewn rhai ardaloedd heb fod ymhell. Byddai tipyn o firi ar ddiwedd y cynhaeaf ŷd, yma ac acw, ond diflannu yr oedd yr hen arferion hyn o flaen y duedd gref i gyfrif pethau o'r fath yn ofergoelion. Cymerid eu lle i raddau gan gyfarfodydd pregethu a chystadleuaethau eraill, megis rhai llenyddol a cherddorol. Tua diwedd y cynhaeaf ŷd, byddai diwrnod neu ddarn diwrnod at gneua," neu hel cnau cyll. Byddai digonedd o gnau cyll ar dir fy nhad ac eraill o'r cymdogion, ac yr wyf yn cofio meibion a merched a phlant yn dyfod i gneua, cydau lliain ganddynt i ddal y cnau. Os byddai'r cnau wedi aeddfedu, dirisglent yn rhwydd, fel y byddai llond y cydau o gnau gwisgi yn doreth da. Byddai'n gystadleuaeth rhyngddynt pwy a fyddai wedi cael mwyaf o "glyma tair," sef tair cneuen wedi tyfu i'w gilydd yn un cwlwm. Dywedid fod cael cwlwm tair yn arwydd lwc dda am y flwyddyn. Cedwid y rheiny wrth gneua mewn poced, fel y byddai'n hawdd eu cyfrif ar y diwedd. Dywedodd un cyfaill, iau na mi, a aned ac a faged mewn ardal arall ymhell o'm hardal i, wrthyf dro'n ôl ei fod ef wedi cario yn ei logell am flynyddoedd lawer gwlwm tair a gafodd ef wrth gneua yn ei ieuenctid. Yr oedd hyn hefyd yn hen arferiad, canys byddai'r beirdd ganrifoedd yn ôl yn sôn am y cneua. Yn fy hen ardal i, cedwid y cnau yn hendwr, i'w bwyta ar ôl cinio yn ystod y gaeaf. Cesglid cnau castan hefyd ar gyfer difyrrwch Calan Gaeaf, a chnau cyffylog at "goblo" gan y plant. Tua'r un amser, byddai hen wragedd yn casglu llysiau a gwreiddiach at wneud trwyth ac eli ar gyfer anhwylder a doluriau, hyn oll yn hen arfer, fel y dengys traethodau ar feddyginiaeth mewn llawysgrifau Cymraeg.