Tudalen:Brithgofion.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddylanwad y beirniaid a ddywedai mai ar y Gynghanedd yr oedd y bai am na chododd yr un bardd mawr erioed yng Nghymru). Felly, gwrandewais ar yr ymddiddan rhwng y ddau, gan gymryd arnaf wylio'r adar to oedd yn ffraco â glas bach y wal yn y domen ger llaw. Adroddodd y prydydd ei englyn, a safodd y ddwy linell olaf ohono yn fy nghof hyd heddiw. Dyma hwy:—

"Gwir enwog gadair anian
Yw glol y mynydd glân."

Gwyddwn fod popeth bron yn enwog" yn y dyddiau hynny, ond nid oeddwn yn sicr beth oedd ystyr "glol." Ond yr oedd tyddyn heb fod ymhell a elwid "Pen y Glol," a meddyliais mai copa bryn neu fynydd oedd glol." Dywedodd fy nhad wrtho fod gwall yn y llinell gyntaf o'r ddwy a bod yr ail yn rhy fer. Rhyngddynt, trwsiwyd y ddwy, ac wedi i'r gŵr bach gael pryd o fwyd, yn ôl hen arfer Gymreig y cyfnod lleteigar hwnnw yn yr holl ffermdai, onid lle byddai ambell "hengribin" yn byw, cychwynodd y prydydd yn ei ôl, fel dyn wedi gwneud ei ddyletswydd. Pan gyrhaeddai adref, byddai wedi cerdded pedair milltir ar deg, er mwyn cael barn ar ei englyn. Dyn bach gwylaidd a chwrtais ydoedd, ac yr oeddwn yn gobeithio y cai'r wobr, o ryw hanner coron, am ei ymdrech. Ni welais mono byth mwy, na chlywed gair o'i hanes, ond gwelaf ef o flaen fy llygaid, yn neidio dros y gamfa yn hoyw ac yn cyrchu'r llwybr ar draws darn o wlad o'r prydferthaf fu erioed, un o ddosbarth yr hen brydyddion gynt, a gymerai drafferth er mwyn un ddisgyblaeth odidog a barchai rhai ohonynt, fel eu hynafiaid...

Perthynai'r prydyddion gwlad i bob dosbarth, ffermwyr, crefftwyr ac ambell was fferm yn eu plith, wedi etifeddu darn o hen draddodiad. Byddai fy mam yn sôn am un gwas fferm, a elwid "Bob y Prydydd," a drôi ambell geiniog oddiwrth grefft y prydydd hefyd. Yr oedd arno unwaith, eisiau codiad yn ei gyflog, ac nid bodlon mo'r meistr. Wrth ddyfod adref o'r ffair un noswaith, digwyddodd damwain i'r meistr. Syrthiodd i ffos y clawdd a chysgodd yno. Aeth y prydydd ato a dywedyd bod "y bechgyn y bechgyn yn crefu arno wneud cerdd. amgylchiad" honedig, ond ei fod ef yn meddwl na buasai'n iawn iddo wneud hynny heb wybod a oedd ar yr