Tudalen:Brithgofion.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blodyn mewn aur ar ochr y cwpan a chanol y sawser, rhai wedi bod yn y teulu er amser Nain, ond bod morynion diofal wedi torri rhai o'r set, "fel y bydd raid iddynt gael gwneud!" Byddai'n rhaid i hogyn bach fod yn boenus o lonydd ac yn annaturiol o dda. Er bod fy man yn un lawen wrth natur a braidd yn ffraeth ei gair, go gwynfannus fyddai'r ymddiddan bron bob amser ar achlysur felly, sôn am drwbl ac afiechyd hon a'r llall, neu am ferch rhyw hen gydnabod wedi priodi yn is na'i stad, felly beth oedd i'w ddisgwyl ond trwbl? Ar dro byddai sôn fod merch un arall wedi "priodi'n dda" dros ben, hynny yw, yn uwch na'i stad, efallai. Trwbl fyddai weithiau ar ôl y fargen honno hefyd. Dywedid yn aml yn ystod yr ymddiddan mai "dyna fel y mae hi yn yr hen fyd yma."

Byddai'n well gennyf hirnos gaeaf, pan ddôi cyfeillion fy nhad heibio. Cymdogion go agos fyddent yn gyffredin. Doent i mewn o un i un, tua'r un amser bob tro, un gŵr mewn tipyn o oed. Dôi ef i mewn yn gyson, nid drwy'r cyntedd fel y lleill, ond drwy'r gegin gefn, neu'r "briws" fel y gelwid. Cilagorai'r drws oddi yno i'r gegin fawr, a gofynnai llais "Oes yma bechaduriaid heno?" "Oes, oes, dowch i mewn," fyddai'r ateb, a dôi'r hen ŵr i mewn. Ni wyddwn yn y byd, ac ni wn eto, pam y dôi ef drwy'r drws cefn ac nid fel y lleill, na pham ychwaith y gofynnai am " bechaduriaid." Golwg mor rhadlon a llawen arno ef ei hun bob amser fel y byddwn yn meddwl weithiau mai dynion llawen felly fyddai pechaduriaid. Caem gryn dipyn o ganu—yr oedd dysgu darllen sol-ffa yn gyffredin yn y cyfnod hwnnw—ac adrodd ystraeon. Ymhlith pethau eraill cenid cân hwyliog iawn, "Ffynnon Cae Coch," sef Ffynnon enwog Drefriw. Dwy linell yn unig a ddaw i'r cof ohoni, ac ni chyfyd gweddill y gainc ychwaith o'r dyfnder—ni fedraf yn fy myw gael diwedd arni! Dyma'r ddwy linell nas llyncodd ebargofiant:—

Cerddi eraill a genid oedd "Ffon y Plismon," gwaith Eben Fardd, mi gredaf; "Cymru fy ngwlad, hen gartref