Tudalen:Brithgofion.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crymedd cymesur ynddi o'i bôn i'w brig. Cymerai hynny ddyddiau gyda thas fawr, gwaith glân, difyr. Ac wedi gorffen hwnnw, a "chau'r pen" yn iawn, byddai'r das a'i hystlysau mor union â'r saeth hithau, ac heb flewyn o'i le i dorri ar gywirdeb ei llinellau. Yna, dodid gwanaf ar hyd y pen, o frwyn neu wellt gwenith, wedi eu tynnu nes eu bod yn unfrig, unfon. Gwneid "rhaffau traws" a "rhaffau cerdded" o lafrwyn neu o wair hir, llathraidd ni ddaethai'r "cortyn coch" yn gyffredin yn yr ardal honno eto. Byddai'r "rhaffau traws," lle byddai crefftwr iawn wrthi, wedi eu nyddu o dair cainc weddol fain. Toid bob yn wanaf, a byddai raid bod pob gwelltyn yn ei le, a'r to yn ddigon tew i wneuthur bondo a daflai'r dwfr i lawr heb gyffwrdd ag ochr y das. Byddai'r tair rhaff gerdded" ar hyd y pen beth yn ffyrfach na'r lleill, yn is i lawr ar y to, a'r isaf ohonynt, ar odre'r to, yr un modd yn ffyrfach. Rhaid fyddai dwyn y to dros y talcen, a'i grymu i mewn ar ei odre oni byddai'n gymwys fel pedol ceffyl. Tynheid pob rhaff wrth fynd ymlaen, a'i gosod yn gadarn à "phinnau to," rhai ohonynt wedi gwasanaethu am flynyddoedd lawer, wedi eu gwneud gan mwyaf o bren cyll, a'r rhisglyn wedi caledu a gloywi, a'u blaenau cyn feined â blaen saeth. Weithiau, rhedid y rhaff gerdded isaf ar draws y talcen o ochr i ochr, fel addurn ychwanegol, ac ni thalai fod un o binnau'r rhaffau traws y gronyn lleiaf yn uwch nac is na'r lleill. Byddai raid cael gwellaif â min arno i dorri godre'r to yn wastad, heb y tolc lleiaf yn y bondo o ben i ben. Cofiaf am ddau hen ŵr yn fy nghartref yn gorffen toi tas wair go helaeth, ac wrthi'n gwastatau'r bondo, un gyda'r gwellaif a'r llall yn rhedeg llygad ar ei hyd. "Wel' di," meddai'r olaf, mae un gwelltyn yn y trydydd cyfwng acw ryw wythfed o fodfedd yn is na'r lleill."

Os tas ŷd fyddai'r das, rhaid ei "gwthio" â rhaw, i gael yr ystlysau a'r talcennau'n wastad, ac yna cymerid pladur i'w "stricio" a chael y gwellt i gyd yn gwbl unfon. Yna toi, fel y toid y gwair. Byddai balchter crefft yn hyn oll, a lle byddai un y cydnabyddid ei fod yn ben crefftwr, cerddai eraill o bell i weld ei waith. A dyna fyddai ei dâl yntau.