GWEDDW'R MILWR.
CYMERWYD fy nharian i'r gâd,
I sefyll rhwng Prydain a'i chwymp,
Aberthodd ei hun dros ei wlad
O weled agosed ei thymp;
Cymerwyd o'r aelwyd yr haul
Fu'n tywallt ei wenau a'i wres;
Daeth Hydref cyn pryd dros y dail,
Daeth oerni y gaeaf yn nes.
Bu farw ym mhoethder y drin
Ac angeu o'i gwmpas yn fyw,—
Fy enw yn floesg ar ei fin
Fel sibrwd y chwa yn yr yw;
Dychmygu ei brofiad yr wyf
Tra suddai yn llewych y lloer,
Heb neb i roi balm yn ei glwyf,—
Y nefoedd, a'r ddaear mor oer!
I dalfryn disgwyliad yr âf
Ar brydiau yng nghwmni fy mhlant,
Ac er fod pob calon yn glaf
Daw atgo i daro ei dant;
Ond dychwel mewn siomiant a gawn
A llwydni y nawn ar ein gwedd,—
Cynlluniau ar chwâl fel y gwawn,
A phriod a thad yn ei fedd.
Crynhoi wna'r cymylau o hyd,
A chyfle i wae yw pob awr;
I niwl y dyfodol yn fud
Rwy'n myned heb weled y wawr;
Mae 'nghalon ymhell dros y don,
Mae 'nhrigfod heb gysgod na gwên,
Mae bedd yn nyfnderau fy mron,
Rwy'n weddw, rwy'n ieuanc, rwy'n hen!