BWLCH GORDDINEN.
GWAHODDGAR i ysbryd yr awen
Yw Bwlch y Gorddinen erioed,
Cynefin rhamantedd, ac Eden
Breuddwydion heb ddyfod i'w hoed,
Bwlch ydyw mewn gwregys o fryniau
Warchodant ei erwau heb ball,
A chyfle pererin drwy'r oesau
I groesi o un sir i'r llall.
Wrth edrych i lawr ar ei gilydd
Yn nrych Llyn y Ffridd lawer awr,
Mae'r bryniau fel gwersyll dihenydd
Yn gwgu ddiwedydd a gwawr;
Ond canu wna ffrydiau'r mynyddoedd
Wrth dreiglo o lechwedd i lwyn,
Ac oedi wna'r tes a'r drycinoedd
I wrando cynghanedd mor fwyn.
Ein cyfarch trwy haenau o risial
Wna natur o gastell y graig.
A'u trem fel rhianedd cyfartal,
Yn unlliw ag ewyn yr aig;
Anturiaeth mewn ymchwil am olud
Fu'n creithio'r llechweddau yn drwm;
Ond cefnu mewn siom fu ei phenyd
I ddwysion encilion y cwm.
Ceir Ty y Gyfeddach yn adfail
Ar uchaf y bryniau ers tro,
A Dirwest ar orsedd gywirsail
Yn eres frenhines y fro;
Gweddiau hen saint y Diwygiad
Sydd beunydd a byth yn y gwynt,
A'r fendith yn dod i'w chyhoeddiad
O gyrddau yr hen amser gynt.