Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GWANWYN.
DAETH ysbryd hoyw heibio 'nrws
Rhyw fore glas yn Ebrill;
Yr oedd ei drem yn welw-dlws,
Ac ar ei fin 'roedd pennill.
Edrychodd gyda chalon drom
Dros erwau noeth y weirglodd;
Edrychodd ar y berllan lom,
A'i gân am dro a beidiodd.
Yn araf dringodd lethrau'r bryn
Heb darfu hen freuddwydion,—
Addewid yn ei lygaid syn,
Ac alaw yn ei galon.
Edrychodd drach ei gefn cyn hir,
Fel llanc wrth droi o garu;
A gwelai erwau maith y tir
A'r coed yn dechreu glasu.
Cyweirio'i delyn ysgafn wnaeth
Yn llys yr awel heini,
A blodau fyrdd o graig i draeth
Yn deffro i wrando arni.
Dihuno gwlad i ddawns a chân
Wnaeth hwn heb neb yn achwyn;
Pelydrau oedd ei wenau glân,
A'i enw ydoedd "Gwanwyn."