Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWYMON.

CNWD yr aig, cennad yr Ion—ar gyfer
Gofid ac archollion;
A châr y sych erwau sôn
Gymaint yw rhin y Gwymon.


GWYFYN.

DIFA pob cain edefyn,—y pren teg
A'r print aur wna'r Gwyfyn;
A'i ddwys fodd eu hysu fynn,
Breuder yw bri ei edyn.



Y PREN CRIAFOL.

EGWAN ei fraich, gwyn ei frig—dan olud
Yn nhalaith y goedwig;
I'r adar bwrdd caredig
Dan wawr gwaed yn awyr gwig.