Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe'i cafwyd ryw hwyrnos ar ddeulin yn ddwys,
Yn ymbil am Graig i roi arni ei bwys
Ni wyddai fod neb yn ei glywed, ond Tad
Amddifaid a gweddwon galarus pob gwlad;
Ond agorwyd drws yr ystafell cyn hir,
A daeth llais drwy y gwyll fel telyneg glir—
Be wyt ti'n neud Bleddyn bach, heb na gole, na ffrynd
"Codi Ticad, mam annwyl; ma'r Tren dest a mynd."