Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r dydd. Ac yna bu farw Osbric, brenin y Saeson. A chysegrwyd eglwys Llan Fihangel.

720. Yr haf tesog. Ac yna bu farw. Beli fab Elfin. A bu frwydyr Heilin yng Nghernyw, a gwaith Garthi Maelog, a chad Pencoed yn Neheubarth; ac yn y tair brwydr hynny y gorfu y Brytaniaid.

730. Bu frwydyr ym Mynydd Carn.

740. Bu farw Beda offeiriad. Ac yna bu farw Owen, brenin y Pictiaid.

750. Bu brwydyr rhwng y Brytaniaid a'r Pictiaid yng ngwaith Maesydog, a lladdodd y Brytaniaid Dalargan, brenin. y Pictiaid. Ac yna bu farw Tewdwr fab Beli. A bu farw Rhodri, brenin y Brytaniaid; ac Edbald, brenin y Saeson.

760. Bu brwydr rhwng y Brytaniaid a'r Saeson yng ngwaith Henffordd. A bu farw Dyfnwal fab Tewdwr.

770. Symudwyd Pasg y Brytaniaid, drwy orchymyn Elbod, gŵr i Dduw. Ac yna bu farw Ffernfail fab Idwal; a Chubert abad. A bu distryw y Deheubarthwyr gan Offa frenin.

780. Diffeithiodd Offa frenin y Brytaniaid yn amser haf.