wyr ymladd a orug, a'r gelynion a ymchwelasant ar ffo, gan eu lladd o Owen a'i wyr, oni bu braidd y dihengis y traean adref ar ffo. A phan gyflenwis y llawenydd hwnnw feddwl Owen, yna yr ymchwelodd ar ei gysefin ansawdd, wedi ei ryddhau o'i gymeredig dristyd, ac adgyweirio y castell a orug.
1162. Digwyddodd Caer Offa gan Owen ab Gruffydd ab Owen ab Madog, a Meredydd fab Hywel.
Cyffroes Henri frenin Lloegr lu yn erbyn Deheubarth, a daeth hyd ym Mhen Cader. Ac wedi rhoddi gwystlon a Rys iddo, ymchwelyd i Loegr a wnaeth.
Llas Einon fab Anarawd yn ei gwsg gan Wallter ab Llywarch, ei wr ei hun.
Lias Cadwgan ab Meredydd gan Wallter fab Rhirid.
Cymerth Rhys ab Gruffydd y Cantref Mawr a chastell Dinefwr.
Bu farw Cadifor fab Daniel archddiagon Ceredigion. Bu farw Henry ab Arthen, goruchel athro ar holl gyffredin yr holl ysgolheigion.
1163. Wedi gweled o Rys ab Gruffydd nad ydoedd y brenin yn cywiro dim wrtho a'r a addawsai, ac na allai yntau ufudd-