wedi cymryd penyd a chyffes ac edifarwch a chymun rinweddau corff Crist ac olew act angen.
1170. Lladdodd Dafydd ab Owen Hywel ab Owen, y brawd hynaf iddo.
1171. Llas Thomas archesgob, gwr mawr ei grefydd a'i santeiddrwydd a'i gyfiawnder a'i gyngor, ac o annog Henri frenin Lloegr, y pumed dydd gwedi duw Nadolig, ger bron allor y Drindod yn ei gapel ei hun yng Nghaint, a'i esgobawl wisg am dano a delw y grog yn ei law y llas, ar ddiwedd yr offeren.
Mordwyodd Rhicert iarll Terstig fab. Gilbert Fwa Cadarn, a chadarn farchoglu gydag ef, i Iwerddon, Ac wedi gwneud. cyfeillach â Diermid frenin, ac erchi ei ferch yn briod, o nerth hwnnw y cafas ddinas Dulyn drwy wneuthur dirfawr aerfa. Bu farw Robert fab Llywarch. A bu farw Diermid frenin Largines, a chladdwyd yn y ddinas a elwid Fferna.
Magwyd terfysg rhwng brenin Lloegr a brenin Ffrainc am ladd yr archesgob. Canys brenin Lloegr a roddasai yn feichiau i frenin Ffrainc Henri tywysog Bwrgwin a Thibot ieuanc ei frawd, meibion oedd y rhai hynny i'r Tibod tywysog Bwr-